Mae ceidwad arfordir cefn gwlad wedi derbyn gwobr anrhydeddus am ei gwaith i helpu bywyd gwyllt yr arfordir.
Yn ddiweddar, bu i Geidwad Arfordir Cefn Gwlad Gogledd Sir Ddinbych, Claudia Smith, dderbyn Gwobr Treftadaeth Forol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn y Symposiwm Un Cefnfor a gynhaliwyd yn y Rhyl.
Mae Claudia yn unigolyn prysur ar hyd arfordir Sir Ddinbych, sy’n cadw llygad yn rheolaidd ar natur a bywyd gwyllt lleol, o’r Rhyl i Dwyni Gronant.
Ar hyd arfordir y sir, gyda chefnogaeth gan ei gwirfoddolwyr ymroddedig, mae Claudia wedi ailgyflwyno moresg i’r system dwyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, trwsio prennau'r llwybr a gosod meinciau newydd.
Maen nhw hefyd wedi helpu i osod disgiau ac arwyddion newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ger yr harbwr, Trwyn Horton, Twyni Barkby a Gronant.
Mae Claudia a’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda sefydlu nythfa ar gyfer môr-wenoliaid bychain yn Nhwyni Gronant ac maent o gymorth mawr gyda chynnal y nythfa o ddydd i ddydd yn ystod tymor y môr-wenoliaid bychain.
Yn ddiweddar, bu’n cynorthwyo â’r gwaith o sefydlu prosiect CoastSnap ar hyd yr arfordir i helpu i fonitro effaith newid hinsawdd ar hyd glannau Sir Ddinbych.
Meddai Claudia ar ôl iddi dderbyn y wobr: “Rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect Hiraeth yn y Môr, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, sy’n dod i ben ddiwedd y mis. Nod y prosiect oedd cysylltu pobl leol rhwng Gronant a Phensarn â’r cefnfor, trwy gyfrwng digwyddiadau, addysg a hyfforddiant.
“Cymerais ran yn eu Fforwm Un Cefnfor fel cynrychiolydd Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a lywiodd gyfeiriad y prosiect. Bu hyn yn gyfle i mi gwrdd â phobl o bob rhan o’r gymuned a hyrwyddo gwaith gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Trefnais ymweliadau â’r môr-wenoliaid bychain yng Ngronant gyda nhw, yn ogystal â sesiynau glanhau’r traeth. Helpodd hyn gyda'n nodau o ran ymgysylltu yng Ngronant, yn ogystal â’u rhai hwythau. Bu i mi hefyd fynychu mwy o’u sesiynau glanhau’r traeth ac ambell un o’u digwyddiadau addysg, gan gynnwys eu Harddangosfa Forol a hyfforddiant arolygu sesiynau glanhau’r traeth, a fydd o gymorth i mi ar sesiynau glanhau’r traeth yn y dyfodol. Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono!
Dywedodd Howard Sutcliffe, Swyddog Arweiniol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Mae’n braf bod Claudia wedi’i chydnabod am y wobr hon gan nad yw llawer o’r gwaith y mae ein Ceidwaid yn ei wneud i’w weld, ond mae o fudd i fywyd gwyllt a hefyd yn gwella bywydau ein trigolion ac ymwelwyr, mae’r camau bach hyn yn gweithio tuag at dirwedd well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
O glywed bod Claudia wedi derbyn y wobr, dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Llongyfarchiadau mawr i Claudia. Mae hi’n ysbrydoliaeth enfawr i lawer oherwydd ei hymroddiad a’i hymrwymiad i gefnogi a chadw’r cynefin arfordirol penigamp sydd gennym yn y sir.”